P-05-1095 Gosodwch gyfyngiadau symud i ysgolion gael pythefnos o wyliau cyn 24 Rhagfyr a galluogi pawb i gael amser teuluol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Andrew Chambers, ar ôl casglu cyfanswm o 10,836 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae ysgolion yn dal i gael problemau gydag achosion COVID gyda grwpiau blwyddyn cyfan yn cael eu hanfon adref mewn rhai achosion, hyd yn oed ar ôl y cyfnod atal byr diweddar a barhaodd am bythefnos. Bydd seibiant am 14 o ddyddiau’n galluogi rhai teuluoedd i gael amser teuluol hollbwysig dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd i adfywio cysylltiadau teuluol a chael trafodaeth bwysig am broblemau iechyd meddwl ymhlith yr ifanc a’r hen.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae deiseb debyg a gobeithio y cynhelir dadl yn ei chylch yn Lloegr.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Ogwr
· Gorllewin De Cymru